Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 11(2) o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/1451) (“Rheoliadau 2019”) yn gwneud darpariaeth ynghylch y canfasiad blynyddol diwygiedig mewn cysylltiad â chofrestr seneddol o etholwyr a chofrestr llywodraeth leol o etholwyr yn Lloegr. Mae’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau 2019 yn gwneud darpariaeth i’r canfasiad blynyddol diwygiedig fod yn gymwys i gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae rheoliadau 4 i 6 yn diwygio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”). Mae rheoliad 4 yn diwygio adran 9A(2) i ddiwygio’r ddarpariaeth mewn cysylltiad â’r camau y caiff swyddog cofrestru eu cymryd mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru at ddibenion cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw cofrestrau o dan adran 9 o Ddeddf 1983. Mae rheoliad 5 yn diwygio adran 9D o Ddeddf 1983 i roi pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol lunio un ohebiaeth ganfasio neu ragor. Bydd rheoliad 5 hefyd yn galluogi swyddog cofrestru sy’n cynnal y canfasiad mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru i wneud ymholiadau o dŷ i dŷ i gael yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer ffurflen ganfasio. Mae rheoliad 6 yn diwygio paragraff 3C o Atodlen 2 i Ddeddf 1983 i roi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau i awdurdodi swyddog cofrestru ar gyfer cofrestr llywodraeth leol yng Nghymru i gymryd camau penodedig at ddiben cael gwybodaeth wrth gynnal y canfasiad, neu i’w gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

Mae rheoliadau 8 i 19 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341) (“Rheoliadau 2001”).

Mae rheoliad 8 yn diwygio’r diffiniad o “digital service” yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau 2001 i estyn cymhwysiad y diffiniad i gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae rheoliad 9 yn dirymu rheoliad 26(3)(eb) (ceisiadau i gofrestru) yn Rheoliadau 2001.

Mae rheoliadau 10 ac 11 yn dirymu rheoliadau 32ZA (y canfasiad blynyddol: cofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru) a 32ZB (camau i’w cymryd gan swyddog cofrestru pan na cheir unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag ymateb i ffurflen y canfasiad blynyddol mewn cysylltiad â chyfeiriad penodol) yn Rheoliadau 2001.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 32ZBA (y canfasiad blynyddol) yn Rheoliadau 2001 er mwyn iddo fod yn gymwys i gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 32ZBA yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru gynnal y canfasiad blynyddol yn unol â rheoliad 32ZBD, oni bai bod yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 32ZBA(4) a (5) yn codi. Mae’r rhain yn caniatáu i’r swyddog cofrestru gynnal y canfasiad yn unol â rheoliadau 32ZBE neu 32ZBF.

Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 32ZBB (paru data’r canfasiad blynyddol) o Reoliadau 2001 fel bod y ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddog cofrestru mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 32ZBB yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru ddatgelu data penodol mewn cysylltiad ag etholwyr cofrestredig ac yn awdurdodi cymharu’r wybodaeth honno â data a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.

Mae rheoliad 14 yn diwygio rheoliad 32ZBC (prosesu gwybodaeth mewn cysylltiad â pharu data’r canfasiad blynyddol) i gymhwyso’r darpariaethau ynghylch prosesu gwybodaeth a ddatgelwyd i ganfasiad o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae rheoliad 15 yn diwygio rheoliad 32ZBD (canfasiad blynyddol ar gyfer eiddo pan allai fod angen ychwanegu gwybodaeth at gofrestr etholiadol, neu ddileu gwybodaeth ohoni, a’r camau i’w cymryd pan na cheir ymateb). Cam cyntaf y broses yw i’r swyddog cofrestru gysylltu â pherson sydd yn gymwys i’w gofrestru, neu a allai fod yn gymwys i’w gofrestru, naill ai drwy anfon gohebiaeth bapur neu drwy ymweld â’r cyfeiriad (gweler rheoliad 32ZBD(1)). Mae rheoliad 15(a) yn diwygio rheoliad 32ZBD(1) fel bod y gofyniad yn gymwys i ganfasiad o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 32ZBD(4) yn pennu sut y gall y swyddog cofrestru fynd ati i gydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraffau (2) a (3) i geisio cysylltu â pherson yn y cyfeiriad. Mae rheoliad 32ZBD(4)(b) yn caniatáu i’r swyddog cofrestru roi galwad ffôn i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn yn y cyfeiriad lle y mae gan y swyddog cofrestru etholiadol rifau ffôn ar eu cyfer. Mae rheoliad 32ZBD(4)(c) yn caniatáu i’r swyddog cofrestru anfon gohebiaeth drwy ddulliau electronig at bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn yn y cyfeiriad lle y cedwir manylion cyswllt perthnasol ar eu cyfer. Mae rheoliad 15(b) yn mewnosod is-baragraffau (ba) ac (ca) newydd i wneud darpariaeth sy’n caniatáu i’r swyddog cofrestru wneud galwad ffôn a/neu anfon gohebiaeth drwy ddulliau electronig at bersonau sy’n 16 oed neu’n hŷn yn y cyfeiriad lle y cedwir manylion cyswllt perthnasol ar eu cyfer mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 15(c) yn diwygio rheoliad 32ZBD(9) i’w gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru sy’n gyfrifol am gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru lenwi’r ffurflen ganfasio ymlaen llaw ag unrhyw wybodaeth a ddelir eisoes gan y swyddog cofrestru mewn cysylltiad â pherson sydd ar y gofrestr. Mae rheoliad 15(d) yn mewnosod paragraff (9A) newydd i wahardd y swyddog cofrestru sy’n gyfrifol am gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru rhag argraffu dyddiad geni unrhyw berson sy’n iau nag 16 mlwydd oed ar y ffurflen ganfasio.

Mae rheoliad 16 yn diwygio rheoliad 32ZBE (canfasiad blynyddol ar gyfer eiddo pan fo’r swyddog cofrestru’n fodlon nad oes angen dileu unrhyw wybodaeth o gofrestr o etholwyr a phan na fo ganddo reswm i gredu y bydd angen gwneud unrhyw ychwanegiadau i gofrestr o etholwyr) yn Rheoliadau 2001 er mwyn iddo fod yn gymwys i gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 16(c) yn diwygio rheoliad 32ZBE(3) i ganiatáu i’r swyddog cofrestru sy’n cynnal canfasiad mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru anfon gohebiaeth drwy ddulliau electronig at un neu ragor o bersonau sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd wedi ei gofrestru neu wedi eu cofrestru yn y cyfeiriad ar gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru lle y cedwir manylion cyswllt perthnasol. Mae rheoliad 16(e) yn mewnosod paragraff (4A) sy’n pennu’r gofynion ar berson yr anfonir gohebiaeth ato yn unol â rheoliad 32ZBE(3). Mae rheoliad 16(g) yn mewnosod paragraff (5A) sy’n nodi’r amgylchiadau pan fo rhaid i swyddog cofrestru anfon gohebiaeth ganfasio A (gweler rheoliad 32ZBG(1)(a)(i) o Reoliadau 2001) i gyfeiriad ar gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 16(h) yn diwygio rheoliad 32ZBE(6) sy’n gosod dyletswydd ar y swyddog cofrestru i argraffu gwybodaeth benodol ar ohebiaeth ganfasio A fel bod y ddarpariaeth yn gymwys i swyddog cofrestru ar gyfer cofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 16(i) yn diwygio rheoliad 32ZBE(7) i’w gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru sy’n cynnal canfasiad mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru gynnal y canfasiad yn unol â rheoliad 32ZBD os oes gan swyddog cofrestru, ar ôl cydymffurfio â’r broses a nodir yn is-baragraffau (3) i (6), reswm i gredu y gallai fod angen tynnu person oddi ar y gofrestr neu bod person yn y cyfeiriad a allai fod yn gymwys i’w gofrestru ond nad yw’n gwybod enw’r person.

Mae rheoliad 17 yn diwygio rheoliad 32ZBF (y canfasiad blynyddol mewn cysylltiad â mathau penodol o eiddo) yn Rheoliadau 2001. Mae rheoliad 17(a) yn diwygio rheoliad 32ZBF(4) fel bod y ddarpariaeth yn gymwys i swyddog cofrestru sy’n cynnal canfasiad mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 17(b) yn mewnosod paragraff (5A) newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru mewn cysylltiad â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru gysylltu â’r person cyfrifol (a ddiffinnir yn rheoliad 32ZBF(8)) a gofyn am wybodaeth mewn perthynas â phob person sy’n 14 oed neu’n hŷn sy’n preswylio yn y cyfeiriad ac sy’n gymwys i bleidleisio, a bydd yn gymwys i gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 17(c) yn gwneud darpariaeth sy’n ganlyniadol i fewnosod paragraff (5A) newydd.

Mae rheoliad 18 yn diwygio rheoliad 32ZBG (gofynion y Comisiwn Etholiadol) yn Rheoliadau 2001. Mae rheoliad 32ZBG(1)(a) yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i lunio ffurflenni cyfathrebu papur ar gyfer y canfasiad blynyddol diwygiedig. Mae rheoliad 32ZBG(4) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng ngohebiaeth ganfasio A. Mae rheoliad 18(a) yn diwygio rheoliad 32ZBG(4)(a), (b) a (d)(ii) er mwyn i ohebiaeth ganfasio A gael ei llunio fel ei bod yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth sy’n benodol i’r canfasiad o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 18(b) yn mewnosod paragraff (4)(d)(iii) newydd i’w gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru, i’r ohebiaeth ganfasio ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth ychwanegol. Mae rheoliad 32ZBG(5) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y ffurflen ganfasio. Mae rheoliad 18(c) yn diwygio rheoliad 32ZBG(5)(a), (b) a (d) fel bod y gofynion ym mharagraff (5) yn gymwys i gofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rheoliad 18(e) yn mewnosod paragraff (f) newydd i’w gwneud yn ofynnol, mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru, i’r ffurflen ganfasio ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth ychwanegol.

Mae rheoliad 19 yn dirymu rheoliad 93A(3) yn Rheoliadau 2001.

Mae rheoliad 21 yn diwygio rheoliad 20(1) o Reoliadau 2019 fel bod y ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddog cofrestru mewn perthynas â chofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr is-adran Democratiaeth Llywodraeth Lleol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 11(2) o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 2

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1) a (3) a 201(3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl


1983([1]) (“Deddf 1983”), a pharagraffau 1(2), 1A a 13(1ZB) o Atodlen 2 iddi, ac adrannau 7(1) a (2) ac 11(3), (4) a (5) o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013([2]) (“Deddf 2013”) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 53(5) o Ddeddf 1983([3]), adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000([4]), ac maent wedi ymgynghori â’r Comisiynydd Gwybodaeth ac ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy yn unol ag adran 53(5) o Ddeddf 1983.

Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf 1983([5]) ac adran 11(2) o Ddeddf 2013, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo. Yn unol ag adran 8(6) o Ddeddf 2013, cyflwynwyd adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol gyda’r offeryn drafft.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020.

2. Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

3. Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983([6]) wedi ei diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 6.

4. Yn adran 9A (swyddogion cofrestru: dyletswydd i gymryd camau angenrheidiol), yn is-adran (2)—

(a)     ym mharagraff (za), ar ôl “a register of local government electors in England” mewnosoder “or Wales”;

(b)     ym mharagraff (a) hepgorer “or in Wales”;

(c)     ym mharagraff (ba), ar ôl “register of local government electors in England,” mewnosoder “or in Wales”.

5. Yn adran 9D (cadw cofrestrau: dyletswydd i gynnal canfasiad ym Mhrydain Fawr)—

(a)     yn is-adran (4) hepgorer “or Wales ”;

(b)     yn is-adran (5)(aa) hepgorer “or Wales,”.

6. Ym mharagraff 3C o Atodlen 2 (darpariaethau y caniateir eu cynnwys mewn rheoliadau ynghylch cofrestru etc.)—

(a)     yn is-baragraff (1), hepgorer “or Wales”;

(b)     yn is-baragraff (1A), ar ôl “a register of local government electors in England” mewnosoder “or in Wales”.

Diwygiadau i Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001

7. Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001([7]) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 8 i 19.

8. Yn rheoliad 3(1) (dehongli), yn y diffiniad o “digital service”, ar ôl “register of local government electors in England” mewnosoder “or in Wales”.

9. Mae rheoliad 26(3)(eb) (ceisiadau i gofrestru) wedi ei ddirymu.

10. Mae rheoliad 32ZA (y canfasiad blynyddol: cofrestr o etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru) wedi ei ddirymu.

11. Mae rheoliad 32ZB (camau i’w cymryd gan swyddog cofrestru pan na cheir unrhyw wybodaeth mewn ymateb i ffurflen y canfasiad blynyddol mewn cysylltiad â chyfeiriad penodol) wedi ei ddirymu.

12. Yn rheoliad 32ZBA (y canfasiad blynyddol)—

(a)     ym mharagraff 1 hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

(b)     ym mharagraff 2 hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

(c)     ym mharagraff 4—

                            (i)    yn is-baragraff (a)(i) yn lle “a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England” rhodder “a register”;

                          (ii)    ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “such”;

                        (iii)    yn is-baragraff (b)(ii)(aa) yn lle “a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England” rhodder “a register”;

(d)     ym mharagraff 5, yn is-baragraff (b)(ii), ar ôl “regulation 32ZBF(5)” mewnosoder “or (5A)”;

(e)     ym mharagraff 6 hepgorer “in respect of a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

(f)      ym mharagraff 8 hepgorer “in respect of a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”.

13. Yn rheoliad 32ZBB(1) (paru data’r canfasiad blynyddol) hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”.

14. Yn rheoliad 32ZBC(1)(a) (prosesu gwybodaeth mewn cysylltiad â pharu data’r canfasiad blynyddol) hepgorer “in respect of a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”.

15. Yn rheoliad 32ZBD (canfasiad blynyddol ar gyfer eiddo pan allai fod angen ychwanegu gwybodaeth at gofrestr etholiadol, neu ddileu gwybodaeth ohoni, a’r camau i’w cymryd pan na cheir ymateb)—

(a)     ym mharagraff 1 hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”;

(b)     ym mharagraff 4—

                            (i)    ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)  where the registration officer holds a telephone number for one or more persons aged 16 or over who are registered in the register of local government electors in Wales, at the address, and whom the registration officer believes are resident at that address, by means of a telephone call to each of those persons;;

                          (ii)    ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “or”;

                        (iii)    ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)  where the registration officer holds relevant contact details for one or more persons aged 16 or over who are registered in the register of local government electors in Wales, at the address, and whom the registration officer believes are resident at that address, by sending a communication by electronic means to each of those persons; or;

(c)     ym mharagraff 9—

                            (i)    yn is-baragraff (a)(i) hepgorer “in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”;

                          (ii)    ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “and”;

                        (iii)    ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—

                    (iv)  the full name, date of birth and nationality of each person whose application to be registered at the address in a register of local government electors in Wales, under section 10ZC(1) or 10ZD(1) of the 1983 Act has been successfully determined, where the date on which the applicant’s name will be published in a notice of alteration under section 13A(2) of the 1983 Act is after the date on which the form will be sent, with the exception of persons registered as mentioned in section 9D(6) of the 1983 Act; and”;

(d)     ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

“9A In relation to a register of local government electors in Wales, the registration officer must not, under paragraph 9, print on the form the date of birth of any person aged under 16.”

16. Yn rheoliad 32ZBE (canfasiad blynyddol ar gyfer eiddo pan fo’r swyddog cofrestru’n fodlon nad oes angen dileu unrhyw wybodaeth o gofrestr o etholwyr a phan na fo ganddo reswm i gredu y bydd angen gwneud unrhyw ychwanegiadau i gofrestr o etholwyr)—

(a)     ym mharagraff 1(a) a (b) hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

(b)     ym mharagraff 2 hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”;

(c)     ym mharagraff 3, yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) where—

                       (i)  the registration officer holds relevant contact details for one or more persons aged 18 or over who are registered at the address in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England; or

                      (ii)  the registration officer holds relevant contact details for one or more persons aged 16 or over who are registered at the address in a register of local government electors in Wales,

a communication by electronic means to each of those persons.

(d)     ym mharagraff (4), yn lle “(3)(b)” rhodder “(3)(b)(i)”;

(e)     ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

(4A) Any communication sent under paragraph 3(b)(ii) must require the recipient to—

(a)   confirm to the registration officer whether the information it contains in respect of persons who are registered at the address in a register of local government electors in Wales, with the exception of persons falling within section 9D(6) of the 1983 Act, is complete and accurate;

(b)   provide to the registration officer, except where it is already included in the communication, the full name and nationality of each person aged 14 or over who is residing at the address and who is eligible to be registered in a register of local government electors in Wales, including an indication as to whether any of those persons is aged 76 or over; and

(c)   provide to the registration officer the date of birth of each person aged 14 or 15 who is residing at the address and who is eligible to be registered in a register of local government electors in Wales.”

(f)      ym mharagraff (5)(b), yn lle “(3)(b)” rhodder “(3)(b)(i)”;

(g)     ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

(5A) In circumstances where a registration officer for a register of local government electors in Wales—

(a)   does not hold relevant contact details for one or more persons aged 16 or over who are registered at the address; or

(b)   has sent a communication by electronic means under paragraph (3)(b)(ii) to one or more persons in respect of the address and has not, within a reasonable time of sending the communication, received the required information from at least one person in respect of the address,

the registration officer must send a canvass communication A to the address.

(h)     ym mharagraff 6—

                            (i)    yn is-baragraff (a)(i) hepgorer “in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”;

                          (ii)    yn is-baragraff (a)(ii) hepgorer “in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

(i)       ym mharagraff 7—

                            (i)    yn is-baragraff (a) hepgorer “of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b) hepgorer “in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”.

17. Yn rheoliad 32ZBF (y canfasiad blynyddol mewn cysylltiad â mathau penodol o eiddo)—

(a)     ym mharagraff 4—

                            (i)    hepgorer “in respect of a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England”;

                          (ii)    ar ôl “paragraph 5” mewnosoder “or (5A)”;

(b)     ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) The registration officer for a register of local government electors in Wales must attempt to make contact with the responsible person and must request the following information in respect of each person aged 14 or over who is residing at that property and is eligible to be registered in a register of local government electors in Wales—

(a)   full name;

(b)   date of birth;

(c)   nationality;

(d)   an indication as to whether that person is aged 76 or over.”

(c)     ym mharagraffau 6, 7 ac 8, ar ôl “paragraph (5)” mewnosoder “or (5A)”.

18. Yn rheoliad 32ZBG (gofynion y Comisiwn Etholiadol)—

(a)     ym mharagraff 4(a), (b) a (d)(ii) hepgorer “in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”;

(b)     ar ôl paragraff 4(d)(ii) mewnosoder—

(iii) to provide the registration officer with the full name, date of birth and nationality of each person aged 14 or 15 who is eligible to be registered in a register of local government electors in Wales, and is residing at the address to which the communication relates, where that information is not included in the communication;”;

(c)     ym mharagraff 5(a), (b) a (d) hepgorer “in a register of parliamentary electors in England or Wales, or a register of local government electors in England,”;

(d)     ym mharagraff 5(e), ar y diwedd hepgorer “.” a mewnosoder “;”;

(e)     ar ôl paragraff 5(e) mewnosoder—

(f) require the recipient to provide the full name, date of birth and nationality of each person aged 14 or 15 who is eligible to be registered in a register of local government electors in Wales, and is residing at the address to which the form is given.”.

19. Yn rheoliad 93(A) (hysbysu swyddog cofrestru am newid i ddewisiadau ynghylch y gofrestr wedi ei golygu), hepgorer paragraff (3).

Diwygiad i Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) 2019

20. Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) 2019([8]) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 21.

21. Yn rheoliad 20(1) (cadarnhau paru data), ar ôl “a register of local government electors in England” mewnosoder “or Wales”.

 

 

 

 

Enw

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           1983 p. 2 (“Deddf 1983”). Diwygiwyd adran 53(1) gan adran 24 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (“Deddf 1985”), a pharagraff 13(b) o Atodlen 4 iddi, a chan baragraff 13(b) o Atodlen 1, a Rhan 1 o Atodlen 7, i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (“Deddf 2000”). Mewnosodwyd adran 201(3) gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (p. 6) (“Deddf 2013”) ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 18(1) a (2) o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12). Mewnosodwyd paragraff 13(1ZB) gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013. Ystyr “prescribed” ym mharagraff 13(1ZB), fel y’i diffinnir yn adran 202(1) o Ddeddf 1983, yw wedi ei bennu mewn Rheoliadau. I’r graddau y mae swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 45 o O.S. 2018/644, a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddo.

([2])           2013 p. 6. I’r graddau y mae pwerau’r Gweinidog o dan adrannau 7 ac 11 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (“Deddf 2013”) yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), ac Atodlen 1 iddo. Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 7 o Ddeddf 2013 i wneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

([3])           Mewnosodwyd adran 53(5) gan baragraff 5 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013.

([4])           2000 p. 41.

([5])            Amnewidiwyd adran 201(2) gan adran 24 o Ddeddf 1985, a pharagraff 69 o Atodlen 4 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 5(b) o O.S. 1991/1728, paragraff 6(1) a (7)(b) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac adran 13(2) o Ddeddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2014 (p. 13) (“Deddf Gogledd Iwerddon 2014”).

([6])           Mewnosodwyd adran 9A(2) gan adran 9(1) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 1, 6(1) a (3) o Atodlen 4 i Ddeddf 2013; mewnosodwyd adran 9D gan adran 4 o Ddeddf 2013; mewnosodwyd paragraff 1B o Atodlen 2 gan baragraff 20(3) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, a mewnosodwyd paragraff 3C o Atodlen 2 gan baragraffau 20(1) a (5) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd pob un o’r darpariaethau hyn gan O.S. 2019/1451. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([7])           O.S. 2001/341. Gwnaed diwygiadau perthnasol i reoliad 3 gan O.S. 2013/3198 a 2019/1451. Mewnosodwyd rheoliad 26(3)(eb) gan O.S. 2016/694 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2019/1451. Mewnosodwyd rheoliad 32ZA gan O.S. 2013/3198 ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan O.S. 2015/467, 2015/1971, 2016/694, 2016/997, 2018/644 a 2019/1451. Diwygiwyd rheoliad 32ZA(3)(f) hefyd gan baragraffau 252 a 256 o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12). Mewnosodwyd rheoliad 32ZB gan O.S. 2013/3198 ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan O.S. 2016/694 a 2019/1451. Mewnosodwyd rheoliadau 32ZBA i 32ZBG gan O.S. 2019/1451. Mewnosodwyd rheoliad 93A gan O.S. 2013/3198 ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan O.S. 2018/312 ac O.S. 2019/1451. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([8])           O.S. 2019/1451.